Rhif y ddeiseb: P-06-1222

Teitl y ddeiseb: Gwahardd barbeciws untro o’n Parciau Cenedlaethol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau yng Nghymru!

Geiriad y ddeiseb: Bob blwyddyn, mae archfarchnadoedd a siopau ar-lein yn annog pobl i brynu miloedd o farbeciws untro rhad sydd wedyn yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiofal ac anghyfrifol, gan arwain at ddifetha cynefinoedd bywyd gwyllt bregus a phwysig.

Dim ond drwy wahardd y nwyddau hyn yn gyfan gwbl y gallwn ni warchod ein bywyd gwyllt gwerthfawr yng Nghymru.

Erbyn hyn, rydym yn deall pam mae ein hucheldiroedd a’n fforestydd yn bwysig ar gyfer storio carbon a’n hamddiffyn rhag newid yn yr hinsawdd. Hefyd, mae’n rhaid i ni atal llygredd morol rhag niweidio moroedd Cymru.

Digon yw digon… mae’n hen bryd gwahardd barbeciws untro o draethau Cymru, yn ogystal â’n Parciau Cenedlaethol a’n Gwarchodfeydd Natur. Gyda’r argyfwng ecolegol yn gwaethygu, ni allwn fforddio anwybyddu’r mater hwn.

Mae’r tanau hyn yn cymryd amser maith i’w rheoli a’u diffodd. Fel gyda thanau ar y rhosydd, unwaith y bydd un darn o dir sydd ar dân wedi’i ddiffodd, gall y tân deithio o dan y ddaear ac ailgynnau mewn man arall. Caiff y tanau effaith hynod ddinistriol ar ardaloedd lleol, gan ladd bywyd gwyllt a distrywio ardaloedd anferth o brydferthwch naturiol, heb sôn am roi ein bywydau ni mewn perygl. Mae modd osgoi’r holl effeithiau hollol ddiangen hyn.

Caiff nifer o’n traethau mwyaf prydferth eu difrodi bob haf, gyda barbeciws crasboeth yn cael eu cynnau yn llythrennol modfeddi o dan arwyneb y tywod, gan fygwth bywyd gwyllt a phobl fregus sy’n defnyddio’r traeth… mae’n amser i ni warchod ein byd naturiol yn lle ei wylio’n llosgi!


1.        Cefndir

Gall tanau gwyllt ddigwydd pan fydd barbeciws untro heb eu diffodd yn cael eu gwaredu'n amhriodol neu eu gadael. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn pwysleisio bod barbeciws untro yn 'gallu achosi tanau gwyllt anodd eu rheoli yng Nghymru'. Roedd barbeciws untro hefyd yn gysylltiedig â than gwyllt a ddifrododd 190 hectar o dir yn Lloegr yn 2020.

Mae pobl sydd o blaid gwahardd barbeciws untro’n pwysleisio bod eu dyluniad cludadwy, sef hambwrdd tunffoil llawn siarcol â gorchudd rhwyll wifrog drosto, yn golygu ei bod yn hawdd eu cludo i fannau anghysbell lle y gallant achosi tanau.

Mae eraill yn dadlau bod barbeciws yn ffordd wych i bobl fwynhau awyr agored Cymru.

Nododd deiseb a gyflwynwyd i Senedd y DU, yn annog Llywodraeth y DU i wahardd barbeciws untro ei bod yn hawdd eu cludo cyn eu defnyddio, ond:

they are almost impossible to carry away for many hours after use whilst they remain hot, meaning they are often left as litter with devastating consequences

Mewn ymateb i ddeiseb Senedd y DU, dywedodd Rebecca Pow, yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, y canlynol:

In terms of legal powers, current byelaw legislation allows for local authorities to restrict and enforce the use of disposable barbecues in parks and public spaces. 

Yn haf 2021, cyhoeddodd y Co-op,, cadwyn archfarchnad, na fyddai’n gwerthu barbeciws untro mwyach mewn siopau ger Parciau Cenedlaethol yn y DU i helpu i atal tanau gwyllt dinistriol.

Mae Bil Barbeciws Untro wedi'i gyflwyno i Senedd y DU. Ei ddarlleniad cyntaf oedd ar 17 Tachwedd 2021 a disgwylir yr ail ddarlleniad ar 14 Ionawr 2022. Byddai'r Bil yn gwahardd defnyddio barbeciws untro ar rostir agored; ac yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol wahardd gwerthu barbeciws untro yn eu hardal. Nid yw'r Bil ar gael i'r cyhoedd eto, felly nid yw Ymchwil y Senedd yn eglur ynghylch ei fanylion na'i faint.

Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020

Sefydlodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 reolau newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau ar draws y DU. Sefydlodd y Ddeddf egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a pheidio â gwahaniaethu, a'u hymgorffori yng nghyfraith y DU fel Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad.

O dan yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol, os yw nwydd yn cydymffurfio â'r rheolau sy'n ymwneud â'i werthu yn y rhan o'r DU lle y cafodd ei gynhyrchu neu ei fewnforio iddi, gellir ei werthu mewn unrhyw ran arall o'r DU heb orfod bodloni’r safonau yn y rhannau eraill hynny, hyd yn oed os ydynt yn wahanol.

O dan yr egwyddor peidio â gwahaniaethu, nid yw rheolau sy'n rheoleiddio sut y dylid gwerthu nwyddau mewn un rhan o'r DU sy'n gwahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn erbyn darparwyr o rannau eraill o'r DU yn gymwys yn gyffredinol.

Gall gwahardd gwerthu barbeciws ddod o fewn cwmpas yr Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad yn Neddf Marchnad Fewnol 2020. Mae hyn yn golygu effaith ymarferol, o bosibl, ar effaith a gorfodadwyedd cynnig y ddeiseb.

2.     Camau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o'r blaen (Medi 2020) nad oes ganddi bwerau i reoleiddio'r defnydd o farbeciws untro.

Mae llythyr y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y ddeiseb hon yn nodi’r canlynol:

We have worked closely with the National Park Authorities on messaging since Covid restrictions began, particularly around responsible recreation.

Roedd hyn yn cynnwys:

Targeted messages, around the risks of disposable barbecues and only lighting fires in designated places.

O ran difrod tân a achoswyd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a thraethau Cymru, dywedodd y Gweinidog y canlynol:

The great majority of fires in grassland and forested areas are started deliberately and maliciously, not by barbecues. We have reduced the number of such fires significantly in recent years through a programme of collaboration between the Fire Service, the Police, Natural Resources Wales and others to deter people from deliberate fire-setting and to respond swiftly to fires that do occur.

3.     Camau Senedd Cymru

Ym mis Medi 2021, ysgrifennodd Janet Finch-Saunders AS, at archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill yn eu hannog i beidio â gwerthu barbeciws untro yr haf nesaf.

Mewn ymateb, dywedodd Sara Jones, pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, fod angen i farbeciws untro gael eu defnyddio'n gyfrifol a’u gwaredu’n gywir.

Ym mis Medi 2020, cyflwynodd Llyr Gruffydd AS, gwestiwn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru:

Pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i reoleiddio'r defnydd o farbeciws untro, yn benodol o ystyried y risg y maent yn ei beri i dir cyhoeddus a diogelwch y cyhoedd?

Mewn ymateb, nododd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol (ar y pryd) y canlynol:

The Welsh Government is committed through its Clean Air Plan for Wales to look at the practicalities, advantages and challenges of regulating outdoor appliances and fuels, which would include disposable barbecues.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.